Huw Edwards yn olrhain hanes Cymru a'i deulu ei hun

5th March 2014

Cyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, sy'n ymchwilio i hanes ei deulu ei hun, i egluro sut y daeth Cymru yn genedl ddiwydiannol gyntaf y byd, mewn cyfres newydd ar S4C. Fe fydd Creu Cymru Fodern gyda Huw Edwards yn dechrau nos Sul, 9 Mawrth.

"Roedd fy nheulu, yr Edwardiaid, yn denantiaid - yn ffermio darn o dir ger Bwlchllan, ym mryniau Ceredigion uwchben Aberaeron" meddai Huw.

"Pan daniodd y Chwyldro Diwydiannol, ac amseroedd caled yn taro cefn gwlad Cymru, fe ymfudodd aelodau o'r teulu i Ohio. Ond fe benderfynodd eraill i symud i'r 'Klondike' Cymreig - maes glo De Cymru. Mewn amodau caled tu hwnt yno, fe fu dosbarth gweithiol anferth newydd yn siapio eu dyfodol nhw eu hunain, a llunio ein Cymru gyfoes ni."

Yn rhaglen gyntaf y gyfres, fydd Huw yn dychwelyd i feddau'r teulu ym Mwlchllan, fel man cychwyn ar daith sydd yn gweld masnach, gwaith a chymdeithas ein gwlad yn newid yn llwyr o fewn can mlynedd rhwng 1750 a 1850.

Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, roedd diwydiant yng Nghymru'n cyflogi mwy o bobl nag amaethyddiaeth - Cymru oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd.

Addysg a llythrennedd wnaeth sbarduno'r newid yn ffordd y Cymry o fyw yn ôl Huw, a hynny gyda diolch i syniad dau o Sir Gaerfyrddin. "Mae plant yr ardal yn dal i ddysgu am ddau o benseiri'r newid heddiw, Griffith Jones a Bridget Bevan. Eu syniad nhw oedd yr ysgolion cylchol, oedd yn symud o bentref i bentref. Y nod oedd galluogi pawb i ddarllen yr ysgrythur. Cyn bo hir roedd mwy o werin Cymru yn gallu darllen nag mewn unrhyw ranbarth arall yn y byd."

Gyda llythrennedd, daeth ton newydd o ddilynwyr i'r ffydd Gristnogol wrth i'r werin ddarllen y Beibl. O ganlyniad roedd mwy o deuluoedd ledled Cymru yn arddel daliadau'r Beibl; ymroddiad, dyfalbarhad a gweithio'n galed.

Wrth gwrs, roedd ffactor hanfodol arall yn y broses o greu gwlad ddiwydiannol a'r Gymru fodern, sef deunydd crai. Yn ffodus iawn, "Roedd tir Cymru yn drysorfa o adnoddau naturiol," meddai Huw.

Ar 2 Mawrth 1768 daeth cloddiwr o hyd i haen enfawr o gopr ym Mynydd Paris yn Sir Fôn, ac o'r pwynt yma aiff stori'r Gymru fodern ar garlam. Sefydlwyd diwydiant copr enfawr yn Sir Fôn, ac yna un mwy fyth yn Abertawe, oedd yn enwog ar draws y byd. Adeiladwyd y ffwrnesi haearn cyntaf a datblygwyd trafnidiaeth rheilffordd gynnar, hyn oll am y tro cyntaf erioed, yng Nghymru. Tyfodd y gwahaniaeth rhwng cyfoeth aruthrol y perchnogion a thlodi enbyd y gweithwyr, a dechreuodd y werin wrthryfela. Gwelodd Gymru wrthryfel y Siartwyr, a brwydr Merched Beca, ac erbyn hyn roedd rhai Cymry wedi penderfynu codi pac a hwylio am America.

"Wrth gwrs, mae hanes y teulu wastad wedi bod yn un bwysig i fi," meddai Huw."Ond wrth ffilmio'r gyfres hon fe ddaeth cyfle i weld ein stori ni mewn cyd-destun mwy - y newid enfawr i bawb yng Nghymru sydd wedi creu'r genedl fodern." Mae'r stori'n parhau nos Sul nesaf ar S4C.

Creu Cymru Fodern gyda Huw Edwards
Nos Sul 16 Mawrth 8.00pm, S4C

Back to News list