Newyddion
Paul Corley ar Fwrdd Green Bay

Mae un o figurau mwyaf adnabyddus a phrofiadol y byd teledu wedi ymuno â bwrdd Green Bay Media Limited fel cyfarwyddwr anweithredol.
Bu Paul Corley, cyn Reolwr Cynnwys Ffeithiol ITV Rhwydwaith a Theledu Carlton, yn gyfrifol am arlwy o raglenni poblogaidd ar gyer ITV, gan gynnwys ‘Hollywood Women’, ‘Blues and Twos’, ‘Special Babies’, ‘Police Camera Action’, ‘Airline’ a ‘Neighbours/Holiday from Hell’. Comisiynnwyd ganddo raglenni dogfen arobryn megis ‘The Visit’ gan Desmond Wilcox a ennillydd Bafta ‘Malcom and Barbara’ gan Paul Watson.
Yn ôl Paul: ‘Green Bay yw un o’r cwmniau cynhyrchu anibynnol sy’n tyfu gyflymaf gyda, gyda llechen gref o gomisiynnau domestig a rhyngwladol. Maent mewn safle cryf iawn i barhau gyda’r twf hwn ac rwy’n falch dros ben i ymuno â’r Bwrdd yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i’r cwmni’.
Yn ôl Phil George, Cyfarwyddwr Creadigol Green Bay: ‘Mae Paul yn dod a chyfoeth o brofiad mewn teledu poblogaidd safonol i Green Bay. Mae ei apwyntiad, ar gefn buddsoddiau ecwiti o £500,000 y llynedd, yn arwydd o frwdfrydedd Green Bay i adael eu marc ar deledu rhwydwaith ar draws Prydain trwy sicrhau nifer o gomisiynnau dychwelyd safonol sydd wedi adeiladu ein henw’.
Mae Paul Corley yn uwch gyfarwyddwr teledu gyda mwy na 30 mlynedd o brofia gyda ITV, BBC a Channel 4. Bu’n Gyfarwyddwr Reolwr gyda Carlton Broadcasting, Prif Gyfarwyddwr Border Television plc a Rheolwr Cynnwys Ffeithiol Rhwydwaith ITV. Mae hefyd yn gymrawd ac ymddiriedolwr i’r Royal Television Society.
Yn ystod yr 80’au cynhyrchodd ac uwch-gynhyrchodd ystod eang o gyfresi ar gyfer Channel 4 gan gynnwys y gyfres gerddoriaeth arobryn The Tube a chyfresi ffeithiol sylweddol The Gnostics, Carl Jung: Wisdom of the Dream, Melvyn Bragg’s Land of the Lakes, Chris Bonington’s Lakeland Rock a Everest Years.
Ym 1992 ymunodd â thîm Carlton Television fel Rheolwr Cynnwys Ffeithiol a Rhanbarthol, gan ddatblygu nifer o raglenni ar gyfer ITV gan gynnwys Hollywood Women, Blues and Twos, The Good Sex Guide gyda Margi Clarke, Special Babies a Ploice Camera Action yn ogystal â chyfresi rhanbarthol megis Capital Woman.
Ym 1996, ymunodd â ITV lle bu’n Reolwr Ffeithiol, Celfyddydau a Oriau Dydd, gan gomisiynnu nifer o gyfresi poblogaidd iawn gan gynnwys Airline a Neighbours/Holidays from Hell. Comissiynnodd raglenni dogfen arobryn megis The Visit gan Desmond Wilcox a Malcom and Barbara, ennillydd Bafta yn delio gyda’r clefyd Alzheimer gan Paul Watson.
O 2001 i 2007 ef oedd Rheolwr Cyfarwyddwr GMTV ltd, cynhyrchydd rhaglen frecwest newyddion ac adloniant mwyaf poblogaidd Ewrop. Ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth cyfryngau newydd y cwmni.
Newydd
Paul Corley ar Fwrdd Green Bay
Gwobr Fusnes i Dwf Green BayNewydd
Darllen hychwaneg
£500,000 yn sbarduno Green Bay i chwilio talent newyddNewydd
Darllen hychwaneg
CARWYN – A HERO’S STORYNewydd
Darllen hychwaneg
Cynllun Denu Talent yn sicrhau rhagolygon disglair i sector ddarlledu Cymru