Newyddion

£500,000 yn sbarduno Green Bay i chwilio talent newydd

£500,000 yn sbarduno Green Bay i chwilio talent newydd

Mae Green Bay Media - un o gwmniau cynhyrchu annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru - wedi sicrhau buddsoddiad o £500,000 gan Finance Wales.

Gyda ail rownd y buddsoddiad ecwiti bydd cyfle i'r cwmni wella ar eu twf aruthrol yn y farchnad deledu rhwydweithiol ac yn rhyngwladol a ddechreuodd gydd buddsoddiad o £300,000 gan Finance Wales yn 2004

"Rydan ni wedi treblu trosiant ac wedi postio elw sylweddol ers y buddsoddiad yn 2004", medd John Geraint. "Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cael ei ffocysu ar dwf organig. Gyda Finance Wales, rydym wedi profi ein cynllun yn drylwyr a gyda buddsoddiad o hanner miliwn o bunnau, rydym yn ffyddiog y gallwn yrru'r trosiant a'r elw yn sylweddol uwch eto yn ystod y blynyddoedd nesaf"