Croeso
Yn adnabyddus am waith o safon arbennig, Green Bay yw un o’r cwmniau teledu anibynnol sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain (Broadcast Indies Survey 2007), wedi treblu trosiant gwerthu yn y flwyddyn ddiwethaf, ac yn anelu tuag at dwf pellach yn y farchnad ryngweithiol a rhyngwladol ar ôl sicrhau buddsoddiad o £500,000 ym mis Medi 2007.
Mae gwaith presennol Green Bay yn cynnwys gwaith ar gyfer BBC, ITV, National Geographic a nifer o ddarlledwyr eraill ym Mhrydain ac yn rhyngwladol; ar gyfres fel Rivers and Life, chwech awr o deledu rhyngwladol ar High-Def wedi ei ariannu gan S4C, France 5 a’r Wales Creative IP Fund, sy’n dangos sut mae’r Amason, Nïl, Rhine, Mississippi, Ganges a’r Yangtze yn llunio diwylliant y bobl sy’n byw ar eu glannau. Mae’r lleoliadau yn cynnwys y Three Gorges Dam yn China.
Cyrhaeddodd raglen gyntaf Green Bay, Do Not Go Gentle – sy’n dathlu cerdd wych Dylan Thomas – yr ‘Olympics of Television’, wedi ei henwebu ynghyd â chyfres blue-chip Band of Brothers a Blue Planet yng ngwobrau Banff Rockies 2002, un o wobrau mwyaf blaenllaw yn y cyfryngau.
Cynhyrcha Green Bay gyfresi hanes sy’n ennillwyr BAFTA, wedi eu cyflwyno gan brif ddarllenwr y newddion Huw Edwards; rhaglenni perfformio cerddoriaeth glasurol ac arbennig ; cyfres ddogfen am hamdden a gwaith; rhaglenni proffeil ar arweinyddion byd ym myd pensaerniaeth, busnes, ecoleg, gwyddoniaeth a chrefydd; ffilmiau celfydddol am ffigurau allweddol ym Mhrydain ag Ewrop; gwyddoniaeth ar flaen y gad; drama cyfnod a hanesyddol.
Calon Gaeth, yw ffilm Sinema gyntaf Green Bay a dangoswyd y premier byd yn Efrog Newydd yn Chwefror 2007. Fe’i scriptiwyd gan Stan Barstow, un o gewri’r sgrin Brydeinig.
Cynhyrchodd Green Bay fywgraffiad argyhoeddedig ar y Cardinal Ratzinger (Pope Benedict XVI) a Rowan Williams (Archesgob Cantubry) cyn eu penodiad i’w swyddi presennol. Wedi ei ffilmio yn egsclwsif yn y misoedd cyn ei benodiad, derbyniodd y rhaglen am Dr. Williams newyddion ar flaen papurau’r byd oherwydd ei agwedd tuag at yr eglwys a gwrwgydiaeth.
Enillodd Gêm y Ganrif (Game of the Century) y wobr uchaf yng Ngwyl Filmiau Celtaidd 2006 – y dorch aur am ‘Ysbryd yr Wyl’. Gan ddefnyddio technoleg CGI arobryn, mae’r ddogfen-drama yn ail-greu buddugoliaeth Cymru dros y crysau duon ym 1905.
Yn 2004, agorwyd stiwdio newydd ar gyfer Green Bay gan Rhodri Morgan, prifweinidog Cymru, Talbot Studios. Yn 2004, cadarnhaodd Channel 4 fuddsoddiad 6 ffigwr i ddatblygu syniadau am wyddoniaeth. Dilynodd S4C, gan wobrwyo Green Bay gyda chytundeb datblygu rhagleni ffeithiol. Yn 2006 a 2007 cadarnhaodd y National Entrepreneurship Observatory fod Green Bay yn rhan o’u ‘Fast Growth 50’.
Cyfarwyddwyr Creadigol
Mae sefydlwyr a chyfrwyddwyr creadigol Green Bay Phil George a John Geraint yn rhannu cyfoeth o brofiad mewn rhaglenni rhyngwladol. Yn uwch-gynhyrchwyr arobryn, mae’r ddau wedi rheoli adrannau cynhyrchu yn y BBC, yng ngofal 400 o wneuthurwyr rhaglenni a chyllideb blynyddol o £70 miliwn. Mae eu rhaglenni’n cynnwys ffilm Michael Ignatieff, Blood and Belonging; cyd-gynhyrchiadau rhyngwladol fel Prohibition (BBC/A&E); enwybwyr Oscar Canterbury Tales; strand triwedd This Land; a The Miracle Maker, dogfen sinema a ddangoswyd ar deledu rhwydwaith yn America.
Yn 2005, ymunodd un o arbenigwyr corfforaethol busnes gorau Prydain fwrdd y cyfarwyddwyr. Mae dibynnwyr Elizabeth Coffey, yn cynnwys Deutsche Bank, Ford of Europe, BT, British Airways, Goldman Sachs, Prudential, Unilever a’r British Cabinet Office.
Newydd
Paul Corley ar Fwrdd Green Bay
Gwobr Fusnes i Dwf Green BayNewydd
Darllen hychwaneg
£500,000 yn sbarduno Green Bay i chwilio talent newyddNewydd
Darllen hychwaneg
CARWYN – A HERO’S STORYNewydd
Darllen hychwaneg
Cynllun Denu Talent yn sicrhau rhagolygon disglair i sector ddarlledu Cymru