Newyddion
Cynllun Denu Talent yn sicrhau rhagolygon disglair i sector ddarlledu Cymru
Mae gwell cyfleoedd am gomisiynau rhwydwaith ar y gorwel ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru diolch i bartneriaeth unigryw rhwng Skillset, Busnes Creadigol Cymru, Pact a phrif Ddarlledwyr.
Cyhoeddodd y bartneriaeth heddiw enwau’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol cyntaf i dderbyn nawdd gan y Cynllun Denu Talent.
Y cwmnïau, a ddewiswyd gan banel arbenigol yn cynnwys uwch swyddogion o’r BBC, ITV a Channel 4, yw: Rondo Media, Green Bay ac Indus.
Wedi’u hariannu ar y cyd gan Skillset, Cyngor Sgiliau Sector y Cyfryngau Creadigol, a Busnes Creadigol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r cynllun yn darparu cefnogaeth ariannol i gwmnïau cynhyrchu Cymreig recriwtio uwch dalent cynhyrchu dros dair blynedd.
Bydd y fenter yn rhoi hwb i sector ddarlledu Cymru drwy ddefnyddio enw da a chysylltiadau cyfredol yr uwch gynhyrchwyr i ddenu comisiynau rhwydwaith sylweddol i Gymru. Byddant hefyd yn hyfforddi a mentora’r don nesaf o uwch dalent cynhyrchu.
Mae’r darlledwyr sy’n cyfranogi hefyd wedi nodi y bydd y cwmnïau sy’n cyfranogi’n cael mynediad at eu timau comisiynu perthnasol.
Meddai Prif Weithredwr Skillset, Dinah Caine:
“Gyda’i gilydd mae Skillset a Busnes Creadigol Cymru, gyda chefnogaeth Pact, BBC, ITV, a Channel 4, yn cyflawni mwy na chynlluniau a strategaethau yn unig.
“Mae’r fenter yn un real. Mae’n digwydd. Ac mae’n darparu ateb tymor hir Cymreig ar gyfer adeiladu gallu a strwythur i ddatblygu gweithlu hyfforddedig i weithio ar gynyrchiadau sylweddol.
“Gwyddom fod Cymru yn medru cynhyrchu cynyrchiadau o safon ryngwladol drwy raglenni fel Doctor Who a Torchwood. Mae’r cynllun hwn yn darparu platfform perffaith a all sbarduno diwydiant cynhyrchu Cymru i fod yn brif chwaraewr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol,” meddai.
Croesawodd Prif Weithredwr Pact, John McVay, y fenter fel cam ymlaen i’r diwydiant
“Mae’r dyfarniadau cyntaf i’r Cynllun Dent Talent yn brawf ei bod yn bosibl i Pact, asiantaethau cyhoeddus a darlledwyr ymateb i anghenion a dyheadau cynhyrchwyr annibynnol yng Ngwledydd a Rhanbarthau’r DG.
“Bydd y tri chwmni yn defnyddio’r buddsoddiad hwn i ddatblygu’u marchnad, ennill mwy o gomisiynau rhwydwaith a sicrhau twf a chynaladwyedd cynhyrchu annibynnol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
“Dylid cymeradwyo’r rhagwelediad a ddangoswyd gan gyrff ariannu, a dylai fod yn enghraifft ar gyfer rhanbarthau eraill y DG,” meddai.
Croesawodd y panel arbenigwyr y cyhoeddiad.
Meddai Emma Barker, golygydd Cronfa Cynhyrchu Gwledydd a Rhanbarthau ITV bod safon y ceisiadau yn uchel iawn, a bod y tri chwmni a ddewiswyd wedi gwneud cyflwyniadau ardderchog.
Meddai Stuart Cosgrove, Cyfarwyddwr Gwledydd a Rhanbarthau Channel 4: “Roedd y cwmnïau wedi creu argraff gyda’u hargyhoeddiad, ac mae gobaith ar gyfer twf cwmnïau creadigol yng Nghymru yn y dyfodol.
Canmolwyd uchelgais y sector gynhyrchu yng Nghymru gan Krishan Arora, Swyddog Gweithredol Cwmnïau Annibynnol BBC Vision.
“Rwy’n gwybod bod modd i’r uwch gynhyrchwyr a fydd yn cael eu cyflogi drwy’r cynllun hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a dod â chomisiynau i’r BBC a fydd er lles yr holl sector.“Bydd ein comisiynwyr yn gweithio’n agos gyda hwy i roi bob cyfle iddynt lwyddo,” meddai.
Diwedd
Nodyn
Skillset yw Cyngor Sgiliau Sector (CSS) y Cyfryngau Creadigol, sy’n cynnwys teledu, ffilm, radio, cyfryngau rhyngweithiol, animeiddio, gemau cyfrifiadurol, adnoddau, delweddu lluniau a chyhoeddi. Trwyddedir CSS gan Lywodraeth y DG a Gweinidogion mewn gweinyddiaethau datganoledig er mwyn taclo her sgiliau a chynhyrchiant fesul sector. Maent yn sefydliadau annibynnol, ledled y DG, dan arweiniad cyflogwyr, ac yn cynnwys undebau llafur, cyrff proffesiynol a budd-ddeiliaid eraill yn y diwydiant.
Pact - cymdeithas sy’n cynrychioli diddordebau masnachol cwmnïau annibynnol ffilm, teledu, animeiddio a chyfryngau rhyngweithiol yn y DG. Dyma’r grwp mwyaf sy’n cynrychioli cynhyrchwyr cynnwys sgrin yn y DG, a’r gymdeithas masnach fwyaf yn y sector ffilm, teledu a chyfryngau rhyngweithiol.
Am ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch â
Nick Gowland
0207 713 9812 / 07 598 160802
Newydd
Paul Corley ar Fwrdd Green Bay
Gwobr Fusnes i Dwf Green BayNewydd
Darllen hychwaneg
£500,000 yn sbarduno Green Bay i chwilio talent newyddNewydd
Darllen hychwaneg
CARWYN – A HERO’S STORYNewydd
Darllen hychwaneg
Cynllun Denu Talent yn sicrhau rhagolygon disglair i sector ddarlledu Cymru