Cyswllt

Green Bay Media Limited
Talbot Studios
1 Talbot Street
Cardiff
WALES
U.K.
CF11 9BW
Ffôn: +44 (0)29 2064 2370
Ffacs: +44 (0)29 2023 2210
post AT green-bay DOT tv

Cyfeiriadau e-bost:

John Geraint John Geraint - Cyfarwyddwr Creadigol
john-geraint AT green-bay DOT tv
Bu John Geraint, fel Pennaeth Cynhyrchu yn BBC Wales, yn arwain 430 o wneuthurwyr rhaglenni, gan gynhyrchu 1,700 o oriau o deledu y flwyddyn. Llwyddodd i ddyblu cyfanswm gwerth y rhaglenni a oedd yn cael eu darlledu ar y rhwydwaith ledled Prydain i £17 miliwn, a oedd yn record, yn sgîl rhaglenni poblogaidd megis Magician’s House, y gyfres Canterbury Tales a gafodd ei henwebu am wobr Oscar, a’r gyfres antur fyd-eang Extreme Lives. Ac yntau wedi ennill gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am gyfraniad neilltuol i fyd teledu, mae gwaith John fel uwch gynhyrchydd yn cynnwys y ffilm ar gyfer y sinema The Miracle Maker. Yn 2001, dychwelodd at waith ymarferol fel cyfarwyddwr gyda chynhyrchiad cyntaf Green Bay, Do Not Go Gentle.

Phil George Phil George - Cyfarwyddwr Creadigol
phil-george AT green-bay DOT tv
Bu Phil George, fel Pennaeth Rhaglenni Celf, Cerdd a Nodwedd, yn arwain canolfan ragoriaeth y BBC mewn cerddoriaeth glasurol. Trodd ei law at raglenni am dirluniau gyda’r cyfresi poblogaidd Visions of Snowdonia a This Land. Enillodd Phil enw iddo’i hun fel cynhyrchydd rhaglenni teledu deallus am faterion sydd o bwys yn fyd-eang gyda Blood and Belonging gan Michael Ignatieff, cydgynhyrchiad rhyngwladol am genedlaetholdeb atgyfodol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â bod yn uwch gynhyrchydd ar gyfresi a rhaglenni unigol i Green Bay, mae Phil wedi cyflwyno 50 o gyfweliadau hanner-awr yn dwyn y teitl Value Judgements i’r BBC ar gyfer y radio.

Gareth Fisher - Rheolwr Busnes
gareth-fisher AT green-bay DOT tv

Amanda Rees - Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr
amanda-rees AT green-bay DOT tv
Mae Amanda Rees yn Gynhyrchydd/Cyfarwyddwr yn gweithio ar ei liwt ei hun a chanddi hanes o lwyddiant wrth weithio ar gydgynyrchiadau ar gyfer y farchnad ryngwladol. Mae ei gwaith blaenorol yn cwmpasu amrywiaeth eang o fathau o raglenni, gan gynnwys rhaglenni dogfen hanesyddol ac arsylwadol, dramâu dogfen a’r Gyfres Orau i Bobl Ifanc yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2002.

Daeth Amanda i amlygrwydd fel cyfarwyddwr rhyngwladol ym 1997, gyda Saints and Sinners, cyfres o chwe rhaglen ddogfen awr o hyd am hanes y Babaeth. Roedd y gyfres hon yn gydgynhyrchiad rhwng S4C, RTE, France 5 ac A&E, ac fe’i darlledwyd mewn ugain o wledydd. O ran y prosiectau a ddilynodd wedi hynny, mae Amanda wedi cydweithio’n uniongyrchol â llu o ddarlledwyr rhyngwladol gan gynnwys SBS Australia, Discovery Health, Alliance Atlantis a The History Channel US. Mae ei chynyrchiadau hefyd wedi cael eu gwerthu i ddarlledwyr ledled y byd.

Mae prosiectau diweddar yn cynnwys POWs of the American Revolution ar gyfer The History Channel US, Mountains and Man i S4C Rhyngwladol / France 5 a War Surgeons i S4C / Alliance Atlantis / France 5.

Julia Cartwright - Is-Gynhyrchydd
julia-cartwright AT green-bay DOT tv

Angela Clarke - Is-Gynhyrchydd
angela-clarke AT green-bay DOT tv

Maureen Watkins - Derbynydd
maureen-watkins AT green-bay DOT tv