Comisiynau
- Cwm Sâl Cwm Iach
Dilynwch Iolo Williams a thri theulu o Gymoedd y De wrth iddyn nhw geisio gwella eu hiechyd a'u ffitrwydd - a chael digon o sbort ar y ffordd. Mae 'na wobrau gwerthfawr i'r teulu gorau - a her uchelgeisiol i Iolo hybu iechyd plant y Cymoedd http://www.s4c.co.uk/cwmsalcwmiach/c_index.shtml - Gwerth Fy Myd
Mewn cyfres newydd ar Radio Cymru, Huw Jones sy'n darganfod pa werthoedd sydd wedi llywio bywyd a gyrfa ei westai arbennig trwy gyfnodau o lwyddiant a dyddiau tywyll. - Rivers and Life/Afonydd (S4C/FRANCE 5)
Yr Amazon, Nîl, Rhine, Mississippi, Ganges a'r Yangtze - llunio diwylliant, newid bywydau - Gladstone and Disraeli: Clash of the Titans (BBC)
- Rescuing The Past (National Geographic/ITV)
- Cwm Glo, Cwm Gwyrdd (How Green Is My Valley) (S4C)
- The Missionary Position (BBC)
Y cwpl sy'n rhedeg 'siop rhyw' Cristnogol cyntaf Prydain: yn ail-hawlio pleser erotig gan y Diafol - Fel Arall (S4C)
Taith eithriadol y profiad hoyw yng Nghymru - yn yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf - Through Children's Eyes (BBC)
Profiad plant sy’n wynebu afiechydon difrifol yn y teulu – trwy eu llygaid nhw eu hunain. - Death Road (History Channel US)
Rhaglen beilot ar gyfer gyfres The World's Most Dangerous Roads wedi saethu ym Molifia gyda'n cyd weithwyr o Tower Productions, Chicago. - Small Country/Calon Gaeth (Feature Film/ Ffilm Sinema)
Ffilm ar gyfer y sinema a drama gyfnod mewn pedair rhan, un awr o hyd yr un, ar gyfer y teledu. Nofel Siân James am fywyd a serch ar fferm yn Sir Benfro ar drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi'i haddasu gan Diana Griffiths a Stan Barstow (A Kind of Loving). - Gêm y Ganrif / Match of the Century (S4C)
Can mlynedd yn ddiweddarach, fe ail-grëir gêm enwog Cymru yn erbyn Seland newydd, a'r dorf o 47,000 a'i gwyliodd hi. - Fit For A Change (ITV)
Hwyl a sbri sy'n gwella safon bywyd yn y gyfres o chwe rhaglen sy'n herio ffrindiau i gyrraedd lefelau newydd o ffitrwydd trwy mabwysiadu ffordd-o-fyw iach. - Glyndwr: The Last Welsh Prince (BBC)
Drama-ddogfen 60 munud – sut y bu i wrthryfel Owain Glyndwr ym 1400 ysgwyd sylfeini gwladwriaeth Lloegr. - Lloyd George: The People's Champion (BBC)
Cyflwynodd Huw Edwards ffilm fywgraffiadol hir ar gyfer teledu rhwydwaith y BBC am Brif Weinidog Prydain y bu i’w bolisïau ddylanwadu ar ffurf a natur y Wladwriaeth Les gynnar, rhannu Iwerddon, ymochredd pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain a’r map o Ewrop wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf. - Anthem (BBC)
150fed Pen-blwydd Hen Wlad Fy Nhadau. - On Show (BBC)
Wyth ffilm ddogfen ar gyfer y gyfres gelfyddydau sy’n un o hoelion wyth y sianel - straeon am unigolion yn amrywio o opera i farddoniaeth. - Legends: Matt Monro (BBC)
Nid “Born Free” oedd hanes y gŵr â’r llais melfedaidd a adwaenid fel “y Sinatra Prydeinig” o gwbl – cafodd fagwraeth galed yn Nwyrain Llundain. Cafodd gymorth y cynhyrchydd George Martin i lwyddo yn ei yrfa ac aeth rhagddo wedyn gan ddod yn seren yn yr Unol Daleithiau. Comisiwn ar y cyd ar gyfer BBC TWO/BBC FOUR. - The Physics Of Rock Guitar (Channel 4)
Yn sain hanesyddol drawiadol, mae'r gitâr roc wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn grando ar gerddoriaeth am byth. Darganfyddwch y gwyddoniaeth syfrdanol tu ôl i'r trawsnewidiad hwn. Rhaglen gyda Dr Mark Lewney, enillydd cyfres Famelab ar Sianel Pedwar. - Say It With Flowers (Film Drama/Drama Ffilm)
Ffilm fer ar gyfer y sinema - drama ôl-ramantaidd a sbardunwyd gan weithred ddirgel, enigmatig. - Fy Mab Yng Nghymru (My son in Wales) (S4C)
Dogfen bwerus yw Fy Mab yng Nghymru yn ail-ymweld ag Inge Hanson a John Pierce Jones flwyddyn ar ôl iddynt wireddu eu breuddwyd o fod yn rhieni drwy fabwysiadu bachgen bach, Iwan Pyrs, o ynys Haiti. - Er Lles Pawb (The State We're In) (S4C)
Cyfres mewn chwe rhan yn ymchwilio i'r Wladwriaeth Les, drigain mlynedd wedi buddugoliaeth ysgubol y blaid Lafur ym 1945. - Bread Of Heaven (BBC)
O Oes y Seintiau i'r cyfnod pan oedd y Capel ar ei anterth, y cymeriadau a’r argyhoeddiadau a ffurfiodd enaid y genedl. Darllenydd newyddion mwyaf poblogaidd Prydain, Huw Edwards, sy'n cyflwyno'r gyfres fawr hon - y fersiwn awdurdodol ar deledu o hanes crefydd yng Nghymru. - A Bloody Good Friday (Film Drama/Drama Ffilm)
Cyfuniad o ffilm am gangsteriaid a chwedl Geltaidd – trasiedi wedi’i haddasu gan y nofelydd Desmond Barry o’i stori gyfoes gyffrous am ddydd gŵyl banc terfysglyd ym Merthyr Tudful. Roedd hwn yn gomisiwn datblygu gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Ffilmiau’r Loteri.
- Profile: Norman Borlaug (BBC)
Proffil Matthew Parris ar rwydwaith y BBC o "Dad y Chwyldro Gwyrdd" - y gŵr a enillodd Wobr Nobel ac sy'n cael clod am achub biliwn o fywydau trwy ei waith i ddatblygu Corwenith. - Why Does It Always Rain On Us? (BBC)
Cyfres o bedair rhaglen ddogfen gan ddefnyddio technoleg aml-gyfrwng i ddathlu hinsawdd wych Prydain. Ffeithiau, ffigyrau, hwyl – a hanesion gan y rheiny y mae’u bywoliaeth yn dibynnu ar y tywydd. - Calendr Adfent (Advent Calendar) (S4C)
Strafagansa’n para am fis – danteithion tymhorol gan sêr o Gymru sy’n enwog ledled y byd. - Profile: Ricardo Semler (BBC)
Proffil ar deledu rhwydwaith o'r gwrw busnes o Frasil sy’n dipyn o rebel ac yn rhedeg "y gweithle mwyaf anarferol yn y byd". Mae cyflogeion yn dewis eu rheolwyr eu hunain, yn pennu'u cyflogau'u hunain ac yn cael seibiant trwy orwedd yn yr hamogau yn y swyddfa. Felly sut ar y ddaear y daeth i fod yn filiwnydd? - The Welsh Weekend (ITV)
O fynd allan i yfed ar nos Wener i siopa a dilyn y campau drwy ddydd Sadwrn, i ginio teuluol a’r teimlad annifyr hwnnw ar nos Sul - cyfres o chwe rhaglen am y newid yn arferion y Cymry ar benwythnosau. - Profile: Zaha Hadid (BBC)
Mae’r pensaer hynod dalentog ac eofn o Irac – un o’r ychydig fenywod sy’n uchel eu parch ledled y byd fel penseiri – yn agor y comisiwn mawr cyntaf iddi ei gwblhau, “yr adeilad newydd pwysicaf yn America ers diwedd y Rhyfel Oer” (New York Times). - Fy Mab o Haiti (Haitian Adoption) (S4C)
Effeithir ar ymdrechion cwpl o Gymru i fabwysiadu mab gan chwyldro treisgar yn Haiti. - An Archbishop Like This (BBC)
Rhaglen ddogfen a ddangoswyd dros Brydain gyfan ar BBC2 am Archesgob newydd Caergaint. Cafodd y criw ffilmio hawl neilltuedig i fynd yn agos at fywyd a gwaith Rowan Williams yn ystod y chwe mis pan gyhoeddwyd ei benodiad gan Downing Street. Cafodd rhaglen ddogfen Green Bay sylw yn y newyddion yn Awstralia a’r UDA, ac ar brif raglenni newyddion BBC Television a Radio 4, ac ym mhapurau newydd y Times, Independent, Daily Telegraph, Daily Mail, Daily Express, Daily Mirror, Sun, Sunday Times, Independent on Sunday ac mewn prif erthygl a stori dudalen-flaen yn y Guardian. - Start Up (ITV)
Cyfres o chwe rhaglen yn dilyn tri busnes yn ystod eu deuddeng mis cyntaf. Yr ofn o fethu. Y tensiynau a’r gwrthdaro wrth fynd ati i gydweithio. Yr addewid o lwyddiant. Yr uchelgais wrth fentro’n ddewr i fyd busnes ac yna gorfod wynebu ffeithiau oer bywyd pob dydd. - Playing Elizabeth's Tune (BBC)
Sut y bu i’r cyfansoddwr Pabyddol William Byrd lwyddo yn llys Protestanaidd y Forwyn Frenhines. Rhaglen arbennig 90-munud yng nghwmni The Tallis Scholars, un o’r ensembles lleisiol mwyaf blaenllaw yn y byd. - Cymer Fi (Take It From Me) (S4C)
Drama-ddogfen mewn chwe rhan am yr hyn sy'n mynd â bryd plant yn eu harddegau sy'n byw yn y Cymoedd. - Open Day (BBC)
Cyfres o chwe rhaglen yn ymwneud â thirlun a hanes sy’n cynnwys ystadau mawreddog a thai hanesyddol. - My Father's House (Film Drama/Drama Ffilm)
Ymddengys fod cenhadwr dylanwadol o America'n cynnig gobaith i gymuned o gapelwyr sydd wedi digalonni. Mae sgript D.J. Britton yn archwilio'r tir peryglus rhwng ffydd a phenboethni. Alan Plater yw'r ymgynghorydd sgript. Comisiwn datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. - The Story Of Welsh (BBC)
Cyfres fawr - a oedd yn llwyddiant mawr ar BBC One Wales, ac a ddangoswyd gan BBC Four ledled y DU: Huw Edwards sy'n adrodd holl hanes cyffrous un o ieithoedd hynaf Ewrop. - Ffynhonnau (Mountain Springs) (S4C)
Glyn Houston a Daniel Evans (Daniel Deronda) sy’n chwarae’r prif rannau mewn drama ddogfen a digwyddiad cymunedol 60-munud i ddathlu’r bryddest glasurol. Daw perfformwyr amlycaf Cwm Rhondda, yn grwpiau dawnsio, bandiau pres a chorau i ymuno â chynulleidfa fawr ger ffynnon sanctaidd hynafol Penrhys. - Profile: Cardinal Ratzinger (BBC)
Proffil Hywel Williams ar gyfer rhwydwaith Prydain o un o’r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn yr Eglwys Babyddol heddiw, Joseph Ratzinger, pennaeth y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd. - Summer On The Gower (ITV)
Cyfres o chwe rhaglen ddogfen yn profi rhin a rhamant yr ardal gyntaf yn y DU i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – ac yn dilyn gwaith y rheiny sy’n sicrhau bod y penrhyn yn parhau i fod yn lle godidog. - Claudia and Gwilym (BBC)
Dau arlunydd, un fan a llawer o baent. A hwythau’n hynod boblogaidd a chynhyrchiol, mae Claudia Williams a’i gŵr, Gwilym Pritchard, yn penderfynu codi’u pac a’u brwsys paent, er mwyn dychwelyd i Gymru. - Profile: Tim Smit (BBC)
Patrick Wright sy’n cwrdd â chrëwr yr Eden Project, y ganolfan amgylcheddol mewn chwarel yng Nghernyw, sef prosiect Mileniwm mwyaf llwyddiannus y DU erbyn hyn. - Caru Oddi Cartref (Foreign Affairs) (S4C)
Cymry sydd mewn cariad â phartneriaid o wledydd tramor – y serch a’r straen sy’n deillio o geisio cynnal perthynas sy’n croesi ffiniau. Rhaglen arbennig 60-munud a ffilmiwyd yng Nghymru, Brwsel a Llydaw. - The Archbishop In Action (BBC)
Golwg unigryw ac agos ar waith Rowan Williams fel Archesgob Cymru. Fe’i darlledwyd y diwrnod y cyhoeddwyd ei benodiad fel Archesgob Caergaint. - Profile: Jan Morris (BBC)
Robert McCrum sy’n cyflwyno proffil o ‘Flaubert yr oes fodern’, yr awdur a’r teithiwr uchel ei bri, a ddechreuodd ei bywyd fel James Morris. Ffilmiwyd yng Nghymru a Trieste. - Strange Beauties (BBC)
Yr enigma o'r enw Gwen John - arlunydd, chwaer Augustus, un a oedd wrth ei bodd gyda Rodin. Gyda Germaine Greer a Michael Holroyd. Ffilmiwyd yn Llundain, Llydaw a Pharis. - Fun In The Sun (ITV)
Dogfen-sebon mewn 6 rhan ar gyfer yr oriau brig ganol yr wythnos - tymor yr haf yn Ninbych y Pysgod, prifddinas partïon-i'r-dynion newydd Prydain. Stormydd, clwy'r traed a'r genau a heriau eraill sy'n wynebu'r diwydiant twristiaeth heddiw. - Life Peer (BBC)
Proffil o Ilora Finlay, sy’n uchel ei bri ledled y byd fel arbenigwr mewn gofal hosbis ac a oedd yn un o’r rhai cyntaf i gael eu gwneud yn ‘Arglwyddi’r Werin’ wrth iddi gymryd ei lle yn Nhŷ’r Arglwyddi trwy draddodi araith ddadleuol am dybaco a hysbysebu. - Do Not Go Gentle (BBC)
Dathliad o gerdd wych Dylan Thomas, yng nghwmni’r arwr o’r byd cerddoriaeth roc, John Cale, Keith Allen a merch Dylan, Aeronwy. Ffilmiwyd yng Nghymru ac Efrog Newydd. Fe’i henwebwyd am wobr Banff Rockie.
Dathliad o gerdd wych Dylan Thomas, yng nghwmni’r arwr o’r byd cerddoriaeth roc, John Cale, Keith Allen a merch Dylan, Aeronwy. Ffilmiwyd yng Nghymru ac Efrog Newydd. Fe’i henwebwyd am wobr Banff Rockie.